Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 21(4) o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2014 Rhif (Cy. )

LLYWODRAETH LEOL, IS-DDEDDFAU, CYMRU

Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Diwygio) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhannau 1 a 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (“y Ddeddf”), a gwnaed y Gorchymyn hwn o dan adrannau 9 ac 16 o’r Ddeddf.

Mae adran 9 o’r Ddeddf yn darparu y caiff  Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (is-ddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol) drwy ychwanegu at y rhestr o ddeddfiadau neu dynnu oddi arni, neu drwy ddiwygio’r math o awdurdod a gaiff wneud is-ddeddfau heb iddynt gael eu cadarnhau.

Mae’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at y rhestr o is-ddeddfau y caiff y mathau perthnasol o awdurdodau eu gwneud heb eu cadarnhau. Mae erthygl 2 yn diwygio Tabl 1 yn Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf.

Mae adran 16 o’r Ddeddf yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (is-ddeddfau y caniateir dyroddi cosbau penodedig mewn perthynas â hwy) drwy ychwanegu at y rhestr o ddeddfiadau neu dynnu oddi arni, neu drwy ddiwygio’r math o awdurdod a gaiff gynnig hysbysiadau cosbau penodedig.

Mae’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at y rhestr o ddeddfiadau y caiff is-ddeddfau oddi tanynt ddarparu ar gyfer hysbysiadau cosbau penodedig. Mae erthygl 3  yn diwygio Tabl 2 yn Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan yr Is-adran Democratiaeth, Moeseg a Phartneriaeth, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 


Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 21(4) o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2014 Rhif (Cy. )

LLYWODRAETH LEOL, IS-DDEDDFAU, CYMRU

Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Diwygio) 2014

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                                           ***

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 9 ac 16 o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012([1]).

Gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 21(4) o’r Ddeddf honno.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Diwygio) 2014.

(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.

(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012.

Diwygio Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf

2.(1)(1) Mae Tabl 1 yn Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (is-ddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 19 o Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964, mewnosoder—

 

“Adran 41 o Ddeddf Cyngor Sir Morgannwg 1973

Ymgymeriadau gwresogi

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol”

 

(3) Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 57(7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, mewnosoder—

 

“Adran 41 o Ddeddf Cyngor Sir Clwyd 1985

 

Canolfannau hamdden

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

Adran 42 o Ddeddf Cyngor Sir Clwyd 1985

 

Adeileddau dros dro

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol”

(4) Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Tai 1985, mewnosoder—

 

“Adran 53 o Ddeddf Cyngor Dinas Abertawe (Morglawdd Tawe) 1986

 

Yr afon uwchlaw

Cyngor sir (Abertawe)

Adran 31 o Ddeddf Cyngor Sir Morgannwg Ganol 1987

 

Harbwr Porthcawl

Cyngor bwrdeistref sirol (Pen-y-bont ar Ogwr)

Adran 14 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987

Canolfannau hamdden

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

 

Adran 36 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987

Plismona a rheoli ffyrdd i gerddwyr

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

 

 

Adran 41 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987

Adeileddau dros dro

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

 

Adran 63 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987

 

Marchnad Abertawe

Cyngor sir (Abertawe)

Adran 45 o Ddeddf Dyfed 1987

Adeileddau dros dro

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol”

 

(5) Yn y rhes sy’n dechrau “Adran 2 o’r Ddeddf hon”, ar ôl “Rheolaeth dda a llywodraeth” mewnosoder “a rhwystro ac atal niwsansau”.

Diwygio Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf

3.(1)(1) Mae Tabl 2 yn Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (is-ddeddfau y caniateir dyroddi cosbau penodedig mewn perthynas â hwy) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 57(7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, mewnosoder—

 

“Adran 41 o Ddeddf Cyngor Sir Clwyd 1985

 

Canolfannau hamdden

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

Adran 42 o Ddeddf Cyngor Sir Clwyd 1985

 

Adeileddau dros dro

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol”

(3) Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Tai 1985, mewnosoder—

 

“Adran 53 o Ddeddf Cyngor Dinas Abertawe (Morglawdd Tawe) 1986

 

Yr afon uwchlaw

Cyngor sir (Abertawe)

Adran 31 o Ddeddf Cyngor Sir Morgannwg Ganol 1987

 

Harbwr Porthcawl

Cyngor bwrdeistref sirol (Pen-y-bont ar Ogwr)

Adran 14 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987

Canolfannau hamdden

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

 

Adran 36 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987

Plismona a rheoli ffyrdd i gerddwyr

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

 

 

Adran 41 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987

Adeileddau dros dro

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

 

Adran 63 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987

 

Marchnad Abertawe

Cyngor sir (Abertawe)

Adran 45 o Ddeddf Dyfed 1987

Adeileddau dros dro

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol”

 

(4) Yn y rhes sy’n dechrau “Adran 2 o’r Ddeddf hon”, ar ôl “Rheolaeth dda a llywodraeth” mewnosoder “a rhwystro ac atal niwsansau”.

 

 

 

 

Dyddiad



([1])           2012 dccc 2.